Darlith Goffa William Condry 2025

Ysglyfaethwyr – eu caru neu eu casáu? gan Mary Colwell

O gudyllod gleision yn hela titwod tomos las i lwynogod yn lladd ffesantod, mae ysglyfaethu yn rhan naturiol a hanfodol o fywyd. Ond er hyn, mae gennym berthynas gymhleth gydag ysglyfaethwyr, maent yn corddi teimladau cryfion ynom. A ddylem ddysgu i’w gadael iddi neu ymyrryd i ddiogelu un rhywogaeth yn erbyn y llall?

Mae Mary Colwell yn awdur, yn gynhyrchydd ac yn ymgyrchydd natur sydd wedi ennill gwobrau. Mae’n arbennig o adnabyddus am ei gwaith ar gadwraeth Gylfinirod. Mae ei llyfr, ‘Beak, Tooth and Claw’, yn archwiliad craff a theg o ysglyfaethwyr yng nghefn gwlad Prydain.

Drysau’n agor 7yh
Tocynnau £10 – Yn cynnwys lluniaeth