Cymysgedd amrywiol o ganeuon a ysbrydolwyd gan ddawns, gan gynnwys cerddoriaeth gan Leonard Bernstein, Hector Berlioz, Gabriel Fauré, Maurice Ravel, Camille Saint-Saëns a Franz Schubert. Caiff y rhestr lawn o ddarnau ei chyhoeddi’n nes at y digwyddiad.

Ar gyfer y cyngerdd amser cinio hwn rydym ni’n croesawu deuawd carismatig o Fienna i lwyfan ein Tabernacl, sef y mezzo soprano Klaudia Tandl a Gisela Jöbstl ar y piano.