O’r dros 400 o weithiau sydd yng Nghasgliad Y Tabernacl mae chwedl yn perthyn i lawer ohonynt, megis Llyn-y-Fan Fach gan Robert Macdonald, Chwedl Sant Melangell gan Dorie Schrecker, a Chwcw Towednack gan Gill Watkiss.

Ochr yn ochr â’r gweithiau o’r Casgliad byddwn yn dangos Tapestri Peredur gan Martin Weatherhead, prosiect 4 blynedd i wehyddu tapestri â llaw wedi’i ysbrydoli gan stori Peredur o’r Mabinogi.