O ogledd Cymru i Begwn y Gogledd, anturiaethwr yn y bôn yw Christopher Mike a chanddo gariad dwfn at natur. Diffinnir ei waith gan ei awch am fywyd a’i awydd diwyro i ddal awyrgylch unigryw’r ennyd arbennig. Bydd yn paentio yn bennaf yn y man a’r lle drwy arsylwi’n uniongyrchol.

Yn y gyfres hon, mae wedi canolbwyntio ar arfordir harddwyllt Cymru yn agos i’w stiwdio yn Aberdyfi. Mae ei holl destunau yn ymwneud â lleoliadau o fewn tri deg milltir i MOMA. Mae’r rhan fwyaf wedi’u paentio yn yr awyr agored mewn olewau gydag ambell gyffyrddiad i’w gorffen mewn stiwdio yn nes ymlaen. Thema gyson sy’n rhedeg drwy’i waith yw effaith y golau a sut yn aml mae hon yn newid y ffordd y gwelwn y byd. Mae dylanwad Joaquin Sorolla a edmygir yn fawr ganddo ochr yn ochr â sawl un o feistri’r argraffiadwyr wedi bod yn ysbrydoliaeth allweddol a gellir gweld hyn yn ei allu i ddal golau a symudiad fel ei gilydd.