Arbenigwyr curiadau Sipsi, mae’r Budapest Cafe Orchestra yn dychwelyd atom yn dilyn sioeau dan sang mewn gwyliau gorffennol.

Mae’r grŵp pedwar darn hwn yn chwarae cerddoriaeth sipsi a gwerin draddodiadol gwledydd Balkan, Rwsia, Hwngari a Rwmania yn eu harddull unigryw eu hun, â nodweddion jazz, dan arweiniad y fiolinydd jazz ardderchog Christian Garrick.

“Chris yw un o’m hoff fiolinyddion jazz”
Nigel Kennedy