Nid yw tocynnau ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn bellach ar werth ond
byddant ar gael i’w prynu wrth y drws.

Mae Dr Brenda Davies yn Seiciatrydd Ymgynghorol ac yn awdur sy’n dysgu ac yn gweithio dros heddwch a gwella gwrthdaro dros y byd. Mae hi’n awdur toreithiog, wedi ysgrifennu am ysbrydolrwydd ac iechyd, ac ‘roedd gwerthiant ei nofel gyntaf The Girl Behind the Gates yn wych. Mae ganddi nofel arall ar fin cael ei chyhoeddi, The Hummingbird Stone. Nofel yw hon sydd wedi ei gosod yn Zambia a Zimbabwe. Wedi treulio sawl blwyddyn yn Zmbia mae hi wrth ei bodd yn byw yn Nghymru erbyn hyn.

Bydd Brenda, yn ystod ei sgwrs, yn trafod dod o hyd i ymdeimlad o berthyn mewn tir estron. Ers yn blentyn, teimlai ei bod yn perthyn i gyfandir Affrica, ac or diwedd bu iddi gyrraedd Zambia pan oedd yn 28 oed. Yno darganfyddodd ymdeimlad dwfn o berthyn, a syrthiodd mewn cariad gyda’r wlad a’i phobl. Mae gweithio yno wedi ei hysbrydoli, nid yn unig yn ei gyrfa meddygol, ond hefyd yn ei gwaith dros heddwch byd-eang.

Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, o’r 15fed o Dachwedd 2021 bydd angen i chi defnyddio’r pàs COVID y GIG i ddangos statws brechu llawn neu Brawf Llif Ochrol negyddol arnoch i fynychu unrhyw ddigwyddiadau yn yr ŵyl .

Rhaid i chi wneud cais am Bàs COVID y GIG drwy wefan y GIG:

https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/