Mae MOMA Machynlleth yn cyffroes i gyhoeddi ein galwad agored am Arddangosfa Artistiaid Ifainc Cymru 2026. Mae’r arddangosfa flynyddol yma yn bwriadu dangos a chefnogi artistiaid yn eu gyrfa gynnar o ar draws Cymru i ddangos gwaith newydd yn oriel broffesiynol. Rydyn yn croesawu ceisiadau o artistiaid gweledol o Gymru neu wedi lleoli yng Nghymru, oed 30 neu o dan. Bydd yr arddangosfa’r flwyddyn yma yn cael ei chynnal yn Oriel Owen Owen a’r Bont rhwng 21ain o Dachwedd 2026 a’r 30ain o Ionawr 2027.

Mae ein Curaduron Ifainc yn gyffrous i weld eich ymgeision, ac yn annog artistiaid o bob gallu a chefndir i wneud cais. Maen nhw’n edrych am weithiau gelf feiddgar a diddorol, sydd yn adrodd straeon am dreftadaeth, hunaniaeth, lle a pherthynas unigol yr artist â Chymru.

Rydym yn croesawu amrywiaeth o weithiau gelf sydd yn arddangos ehangder eich ymarfer creadigol. Gofynnwn bod pob darn o waith sy’n cael ei ddanfon wedi’i orffen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais, gallwch anfon ebost at aic.ywa@gmail.com

Cliciwch yma i lawrlwytho taflen wybodaeth
Dyddiad Cau y Galwad Agored : 13.09.26 – 23:59
Dolen i’r Ffurflen Galwad Agored : https://forms.gle/FzvPB2vEfaVV6U3T8