Mae’r tirlun Cymreig, yn ei holl amrywiaeth, yn gymaint o greadigaeth ddiwylliannol ddynol yn ei hanfod ag y mae’n ffenomenon naturiol: mae ei ddeunyddiau crai wedi esblygu law yn llaw â’r bobl sydd wedi byw yma ers i’r iâ gilio. Yn y ddarlith hon, bydd Carwyn yn cyflwyno’r lens diwylliannol Cymreig ar rai o’n tirluniau cyfarwydd, gan holi sut y gall dal ein gafael ar y lens hwn helpu gyda gwaith i ailfywiogi tirluniau Cymreig yn y dyfodol.

Mae Carwyn yn awdur, yn siaradwr cyhoeddus, yn arddwr ac yn naturiolwr o Gaerfyrddin. Mae The Story of the Welsh Landscape (2024) yn astudiaeth ddofn o greadigaeth ac ecoleg gwahanol fathau o gynefin oedd yn y tirlun Cymreig, ac mae ei gyhoeddiad Cynefin: Wisdom from a thousand years of Welsh Nature Poetry (2026) yn ystyried y berthynas ddiwylliannol rhwng tir a phobl. Mae ei waith yn ceisio dangos sut y mae iaith a bwyd wedi’u plethu i’w gilydd yng Nghymru.

Drysau’n agor 7.00yh
Yn cynnwys lluniaeth