Mae MOMA a’r Tabernacl, Machynlleth yn ymrwymedig i ddarparu mynediad cyflawn a chyfartal i bawb. Rydym hefyd yn deall bod anghenion mynediad yn eang ac amrywiol. Peidiwch â phetruso rhag cysylltu â ni cyn eich ymweliad i drafod unrhyw ymholiadau sydd gynnoch chi yn y cyswllt yma.

Taliadau

Mae mynediad i holl arddangosfeydd MOMA Machynlleth bob amser am ddim. Fodd bynnag, er mwyn rheoli mynediad diogel i arddangosfeydd yn ystod Covid-19 rydym bellach yn gofyn i ymwelwyr archebu apwyntiad ymlaen llaw.

Fel arfer bydd ein sgyrsiau amser cinio am ddim. Bydd digwyddiadau eraill yn y Tabernacl a Gŵyl Machynlleth yn cael eu prisio’n unigol, gan amrywio o’r di-dâl i £20+. Mae prisiau consesiynol ar gael ar gyfer pob digwyddiad y codir tâl amdano ac rydym yn cynnig tocynnau am ddim i hebryngwyr a gofalwyr y rheini sydd ag anghenion ychwanegol.

Adegau Tawelach yn yr Orielau

Bydd yr orielau’n agored yn ddyddiol, dydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10yb a 4yp.  Tuedda ein horielau i fod yn dawelach rhwng 10 ac 11yb, neu 3 a 4yp, a hefyd ar ddydd Iau ar gyfer y rheini sydd am ymweld ar adeg dawel.

Parcio Bathodyn Glas

Mae mannau parcio ceir â bathodyn glas ar gael y tu cefn i’r ganolfan. I archebu’ch lle, cysylltwch â ni cyn eich ymweliad ar 01654 703355.

Noder nad oes unrhyw fannau parcio eraill ar gael ger y ganolfan.

Cŵn Cynorthwyol

Mae croeso i gŵn tywys a chŵn clywed ym mhob rhan o MOMA a’r Tabernacl. Rhowch wybod i aelod o’r staff neu wirfoddolwr os byddai’ch ci’n hoffi dŵr i’w yfed yn ystod eich ymweliad.


Mynediad Gwastad a Lifftiau

Mae gan MOMA Machynlleth lifftiau i bob llawr a mynediad gwastad i bob un o’i horielau.

Mae mynediad gwastad o lefel y stryd i Ystafell y Gwladwyr, yr oriel ym MOMA sy’n agor i Heol Penrallt.
Ceir mynediad i’r holl orielau eraill, yn ogystal â’r caffi a’r siop, o’r cwrt wrth ymyl Ystafell y Gwladwyr ar Heol Penrallt. Lleolir mynedfa Oriel y Cyntedd ar ochr chwith y cwrt. Mae’r lifft i’r llawr cyntaf ac Orielau’r Tanerdy ychydig draw o Oriel y Cyntedd i ochr dde’r fynedfa.

Mae gan y Tabernacl bedwar lle wedi’u neilltuo i gadeiriau olwyn. Gallwch archebu ymlaen llaw drwy gysylltu â ni ar 01654 703355.

Mae mynediad gyda lifft i’r Tabernacl ar gael drwy fynedfa’r cwrt i’r orielau ac mae’r lifft ei hun ychydig draw o Oriel y Cyntedd.

Benthyca Cadair Olwyn

Mae yna gadair olwyn y gallwch ei benthyca ar gyfer eich ymweliad. Cysylltwch â ni ar 01654 703355 i’w llogi ymlaen llaw neu ofyn i aelod o’r staff neu wirfoddolwr wrth gyrraedd.

Toiledau Hygyrch a Chyfleusterau Newid Babanod

Mae gynnon ni doiled hygyrch ar y llawr isaf. Lleolir hwn ym mhen pellaf Oriel y Cyntedd a ddefnyddir hefyd fel y bar ar gyfer digwyddiadau’r Tabernacl. Ceir ein cyfleusterau newid babanod yn y toiled hygyrch.

Dolenni Sain

Mae dolen sain wedi’i gosod yn neuadd y Tabernacl. Mae’n ddrwg gynnon ni nad oes gynnon ni ddolen sain yn yr orielau ar hyn o bryd.

Lleoedd i Eistedd

Mae cadeiriau a byrddau ar gael i gael hoe a lluniaeth yn ein caffi. Mae meinciau pren hefyd ar gael yn y rhan fwyaf o’n horielau.


Deunyddiau Dehongli a Phrint Bras

Rydym yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau dehongli gan gynnwys labeli a phaneli testun ar gyfer arddangosfeydd a rhaglenni cyngerdd. Mae’r rhain ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gofynnwch i aelod o’r staff neu wirfoddolwr os hoffech i unrhyw ddeunyddiau print gael eu darparu mewn print bras.

Beth sy’ ymlaen

O arddangosfeydd celfyddyd weledol i gerddoriaeth glasurol a sgyrsiau am hanes i weithdai creadigol, mae digon i’w ddarganfod yn MOMA a’r Tabernacl, Machynlleth.

Pori digwyddiadau

Twrio drwy’r Casgliad

Twriwch drwy ein casgliad cynyddol o dros 400 o weithiau sy’n canolbwyntio ar artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Twriwch

Siop Ar-lein

Porwch drwy ein gweithiau celf, printiau, llyfrau a chardiau cyfarch. I gyd bellach ar gael i’w prynu ar-lein

Dechrau siopa rŵan