Cynigir Ysgoloriaethau i fyny at £500 yn flynyddol ym mis Gorffennaf i fyfyrwyr sydd yn cwblhau eu haddysg Ysgol Uwchradd ac yn symud ymlaen i astudio Cymraeg, Saesneg neu’r Celfyddydau mewn coleg. Pwrpas y wobr ariannol yw i gynorthwyo myfyrwyr ar ddechrau eu gyrfa coleg. Os yw myfyriwr wedi cyrraedd safon aruchel mewn cerddoriaeth tra yn yr ysgol ond sydd wedi dewis cwrs ar wahan i’r celfyddydau, mae cyfle i hwythau hefyd cael eu gwobrwyo os ydynt yn parhau i astudio neu pherfformio cerddoriaeth. Dim ond myfyrwyr sydd yn byw yn ardaloedd Dyffryn Dyfi, Aberdyfi a Thywyn sydd yn gymwys i geisio am gymorth oddi wrth Ysgoloriaeth y Tabernacl.

Sefydlwyd Ysgoloriaeth y Tabernacl gan Sally Marshall a’i diweddar ŵr Jim a Chyfeillion y Tabernacl ym 1995 ac yn y blynyddoedd cynnar ariannwyd y fenter drwy gynnal cyngherddau ac ati. Yn 2005 penderfynwyd trosglwyddo trefniadaeth yr Ysgoloriaeth i Ymddiriedolaeth y Tabernacl.

Ymgeisio am Ysgoloriaeth

Rhaid i ymgeiswyr ysgrifennu llythyr at Mrs Sally Marshall yn cynnwys holl manylion eu CV yn ogystal a llythyrau cefnogi oddi wrth eu hathrawon. Dylid anfon y llythyrau, erbyn Gorffennaf 31, at;

Mrs Sally Marshall
Cadeirydd Ysgoloriaeth y Tabernacl
Y Tabernacl
Heol Penrallt
Machynlleth
SY20 8AJ

Cyflwyno’r Gwobrau

Gwahoddir yr ymgeiswyr llwyddiannus i dderbyn eu gwobrau yng nghyngerdd nos Fawrth Gwyl Machynlleth ar y 23ain o Awst, pryd y cyflwynir y gwobrau gan aelod o’r Ymddiriedolaeth.

Cydnabyddiaeth ac Adborth

Disgwylir i’r buddugwyr gydnabod eu gwobr mewn llythyr at Mrs Sally Marshall. Disgwylir hefyd i bob un ohonynt gyfrannu mewn rhyw fodd tuag at ymdrechion i godi arian i’r Ysgoloriaeth yn y dyfodol. Yn ogystal bydd yn ofynnol i Mrs Marshall gael gwybodaeth sut y defnyddiwyd yr arian a dderbyniwyd.