Ydych chi erioed wedi ceisio disgrifio’r gerddoriaeth rydych chi’n ei charu i rywun? Mae’n gallu bod yn anodd!

Dyna pam rydyn ni wedi creu rhestr chwarae ‘Goreuon yr Ŵyl’ ar gyfer eleni, fel y gallwch chi gael blas ar yr amrywiaeth anhygoel sydd ar gael. Mae’n cynnwys cerddoriaeth o bron bob digwyddiad yn yr ŵyl, ac rydyn ni hefyd ychwanegu rhestrau chwarae manwl ar gyfer pob digwyddiad ar wahân. Rydyn ni’n defnyddio Spotify ar gyfer ein rhestrau chwarae, a gallwch gofrestru’n rhad ac am dim i wrando ar yr holl draciau – ond gallwch gael blas 30 eiliad o bob trac heb gofrestru. Mwynhewch!

Rhestr gwrando Goreuon yr Ŵyl

  1. Yma O Hyd  – gwrandewch ar Edward Morus Jones yn sgwrsio â Dafydd Iwan.
  2. Ar Lan Y Mor – Gwrandewch ar y gantores Rhian Lois fel rhan o Three Soloists.
  3. 3. Evviva! Beviam! – Côr meibion enwog Côr Godre’r Aran.
  4. A Tu More – o’r albwm Manuša gan Júlia Kozáková.
  5. Auf dem Strom (On the River) gan Schubert. Gwrandewch ar berfformiad Konstantin Krimmel.
  6. Sonata Piano Rhif 21 Schubert. Gwrandewch ar berfformiad y pianydd Elizabeth Leonskaja.
  7. Triawd Piano mewn G leiaf gan Smetana. Bydd y Salieca Trio yn perfformio gyda cherddoriaeth Dvořák.
  8. Libertango, i Marimba. Rhan o’n digwyddiad hwyrnos dan y sêr, Marimba Night.
  9. Contrasts: Verbunkos gan Bartók. Rhan o’n digwyddiad amser cinio gyda’r feiolinydd Anthony Marwood.
  10. Sonata 6 mewn F fwyaf gan Handel. Gwrandewch ar berfformiadau Rachel Podger a Brecon Baroque.
  11. Spiegel im Spiegel gan Pärt. Rhan o’n rhaglen hwyrnos Balm for the Soul .
  12. Preliwd o 3 Vocalises Vaughan-Williams. Gwrandewch ar Lotte Betts-Dean yn canu’r preliwd fel rhan o’n Cyngerdd Coffi.
  13. Pumawd Clarinet Mozart. Rhan o’n cyngerdd olaf, Finale! Manylion y digwyddiad.