Dau gwestiwn gwych y gallech chi eu gofyn cyn ein cyngerdd gyda’r Kalesidoscope Chamber Collective nos Sadwrn yma.

Yn gyntaf gadewch i ni gymryd golwg ar ddarn Schubert a chael tipyn o gyd-destun. Cafodd ei ysgrifennu pan oedd yn ddim ond 22 oed, ar gyfer cyfuniad anghyffredin o offerynnau – er bod Pumawdau fel arfer yn bedwarawd llinynnau ynghyd â phiano, ysgrifennodd hwn am y cyfuniad mwy anarferol o biano, fiolin, fiola, sielo a bas dwbl.

Cafodd ei enw am fod y Pedwerydd mudiad, sy’n set o amrywiadau ar gân roedd Schubert wedi’i lunio o’r blaen, yn dwyn enw, ie wrth gwrs, The Trout. Gan leisio rhai agweddau cyffredin y 18fed ganrif, roedd rhan o’r gân honno’n rhybudd i ferched ifanc am gael eu dal yn ‘pysgota’ am ddynion. Ond penderfynodd Schubert, yn ddoeth mae’n debyg, beidio â chanolbwyntio ar ochr yna pethau ac yn lle, ceisiodd ganolbwyntio ar greu delwedd y brithyll yn y dŵr.

Iawn, dyna dipyn o hanes, ond pam ydy’r darn yma mor gyfarwydd? Gallai un rheswm fod am ei ddefnydd eitha dyfeisiol o’r ensemble 5 rhan, ac yn arbennig rhan y piano. Mae dull cyfansoddi’r darn yn rhoi iddo sain unigryw, gydag ychwanegiad y bas dwbl yn rhyddhau’r pianydd i ganolbwyntio ar ei nodau uwch am lawer o’r amser.

Rheswm symlach am ei boblogrwydd efallai yw bod llawer o alawon da ynddo, ac mae’n adlewyrchu cyfnod dibryder ym mywyd y cyfansoddwr – gwyliau haf mewn cefn gwlad bendigedig a oedd yn newid hyfryd i ddyn ifanc a oedd yn byw mewn dinas. Yn siriol, yn gofiadwy, ac yn llawn hwyl, mae’n eithaf anodd peidio â hoffi hwn fel darn o gerddoriaeth.

Dau beth arall mae’n dda eu gwybod ond sy’n annhebygol o fod wedi cyfrannu’n fawr iawn at ei boblogrwydd – cafodd ei ddefnyddio am gyfres deledu’r BBC Waiting for God, ac yn ôl pob sôn mae rhai peiriannau golchi Samsung yn ei chwarae wrth orffen y cylch troelli! (gweler y dystiolaeth fideo isod…)

Iawn, ymlaen nawr i’r Dduges â’r enw gwych Anna Amalia of Brunswick-Wolfenbüttel, y mae ei cherddoriaeth hithau’n agor cyngerdd y Kaleidoscope Chamber Collective. Does dim syndod os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r dywysoges Almeinig hon a gafodd ei geni ym 1739, ond a dweud y gwir dylai fod yn fwy adnabyddus.

Er bod rhyfel ac ymdrechion i wella’r economi yn llenwi llawer o’i hamser, llwyddodd i weddnewid ei llys yn ganolfan ddiwylliannol wirioneddol hefyd, gyda ffigurau fel Goethe a Schiller yn gweithio dan ei hamddiffyniad hi. Hefyd cymerodd wersi cyfansoddi a chanu’r llawfwrdd a dod yn gyfansoddwr nodedig, gan ysgrifennu caneuon a cerddoriaeth siambr, gan gynnwys y Divertimento gallwch ei glywed yn yr Ŵyl ac sydd efallai’n dangos dylanwad Mozart, ochr yn ochr â sonatas harpsicord a gweithiau mwy o faint ar gyfer cerddorfa.

Yn ogystal â meddu ar allu a brwdfrydedd am gerddoriaeth, roedd diddordeb mawr ganddi mewn llenyddiaeth ac ym 1766 sefydlodd Lyfrgell y Dduges Anna Amalia. Cymerodd neb llai na Goethe ei hunan ran ac aeth yn ffigur pwysig yn natblygiad y llyfrgell sy’n dal i sefyll heddiw, yn gartref i bron i filiwn o lyfrau.

Fel y darganfu awdur y blog yma, rhaid peidio’n bendant â’i drysu gyda’i chyd-gyfansoddwr ag enw tebyg, y Dywysoges Anna Amalia o Brwsia – er mae’n debyg i’r Divertimento gael ei briodoli ar gam iddi hi yn y gorffennol.

Gallwch chi glywed Trout Quintet Schubert a’r Divertimento gan y Dduges Anna Amalia o Brunswick-Wolfenbüttel yng nghyngerdd y Kaleidscope Chamber Collective nos Sadwrn 24 Awst.

Manylion / Tocynnau