Disgrifiad

Mae hanesion arbennig o ddiddorol sy’n gysylltiedig â dau dirlun o ogledd Cymru. Paentiwyd y ddau gan yr artist tirluniau penigamp, David Woodford. Rhoddwyd y cyntaf, o afon Llugwy, i ni fel anrheg gan Syr Kyffin Williams. Flynyddoedd maith ar ôl i’r rhodd hon gael ei chyflwyno, fe welodd yr artist ei baentiad yn yr oriel a gofyn a allai roi un arall i ni. Paentiad o Nant Ffrancon – ei filltir sgwâr – yw’r ail un yma a mawr y trysorir y ddau.

Ruth Lambert. Mawrth 2021


Darganfod mwy

Mae gan David Woodford 2 gwaith ar-lein

Porwch destunau tebyg: Tirlun

Mae gennym 155 Paentiadau ar-lein.