Disgrifiad

Ar y diwrnod ym 1986 yr ailagorodd Andrew Lambert y Tabernacl fel canolfan i’r celfyddydau perfformio, roedd ar y llwyfan nifer o luniau a phaentiadau yr oedden ni fel teulu wedi’u rhoi i lansio Casgliad y Tabernacl.

Erbyn hyn, mae ymhell dros drichant o weithiau yn y Casgliad. Mae rhai wedi’u rhoi er cof, sawl un yn “rhodd gan yr Artist” ac ychwanegwyd cryn nifer drwy haelioni cymynroddion Nora Gibbs, Mollie Winterburn a John Davies.

Ceir straeon hynod ddiddorol y tu ôl i lawer o’r gweithiau a dw i wedi dewis sôn am ambell un oherwydd eu diddordeb hanesyddol. Ceir dau lun pwysig o Dylan Thomas gan Mervyn Levy.

Buont yn fyfyrwyr gyda’i gilydd a llun o’r cyfnod hwnnw yw’r cynharaf o’r ddau. Mae’r ail yn bortread o Dylan ychydig amser yn unig cyn ei daith dyngedfennol i’r Unol Daleithiau.

Dywedodd perchennog yr oriel yn Llundain lle’r oedd y lluniau ar ddangos na chawn i eu prynu, oherwydd ei gobaith oedd y byddent yn mynd i America. Ond fe’m rhoddodd mewn cysylltiad â Mervyn Levy, yr artist. Nid yn unig iddo adael i ni eu prynu ond hefyd rhoddodd hawlfraint y ddau i ni.

Ruth Lambert, Mawrth 2021


Darganfod mwy

Mae gan Mervyn Levy 2 gwaith ar-lein

Porwch destunau tebyg: Du a Gwyn Pobl Portread

Mae gennym 87 Darluniau a Dyfrlliwiau ar-lein.