24 Mai 2021

O 29 Mai 2021 ar ddyddiau Mercher a Gwener, 10yb – 4yp, ac ar ddyddiau Sadwrn, 10yb – 1yp, drwy apwyntiad yn unig

Bydd MOMA Machynlleth yn ailagor ddydd Sadwrn 29 Mai gyda Celfyddyd Menywod yng Nghymru – Golwg Bersonol. Wedi’i chefnogi gan Ganolfan Paul Mellon ar gyfer Astudiaethau mewn Celfyddyd Brydeinig a’i dethol gan y curadur gwadd, Jill Piercy, mae’r arddangosfa hon yn Oriel Owen Owen a’r Bont yn cynnwys 27 o artistiaid y mae Jill wedi’u hadnabod a’u harddangos dros flynyddoedd lawer.

Gyda’r amrywiaeth ryfeddaf o ddyddiadau a thestunau, mae’r arddangosfa’n cynnwys cerameg, gweithiau wedi’u pwytho a cherfluniau yn ogystal â phaentiadau ffigurol a haniaethol.  Bydd y rhan fwyaf o’r gweithiau ar werth sydd hefyd yn ychwanegu elfen o gyffro gan ein troi un ac oll yn ddarpar gasglwyr. Gall ein Cynllun Lluniau helpu i dalu am rywbeth dros gyfnod o flwyddyn.

Ymhlith yr artistiaid mae Bev Bell-Hughes, Brenda Chamberlain, Glenys Cour, Claire Curneen, Rozanne Hawksley, Maria Hayes, Mary Griffiths, Julia Griffiths Jones, Eileen Harrisson, Catrin Howell, Christine Kinsey, Mary Lloyd Jones, Shani Rhys James, Alison Lochhead, Sally Matthews, Eleri Mills, Christine Mills, Sally Moore, Wendy Murphy, Rachel Rea, Luned Rhys Parri, Marged Pendrell, Helen Pugh, Audrey Walker, Catrin Webster, Meri Wells a Catrin Williams. Bydd hefyd gyfres o sgyrsiau a chyhoeddiad i gyd-fynd â’r arddangosfa.

Ochr yn ochr â Celfyddyd Menywod yng Nghymru, mae Oriel y Tanerdy yn arddangos gweithiau gan artistiaid benywaidd o Gasgliad y Tabernacl sydd hefyd wedi’u dethol gan Jill Piercy ac mae’r Gofod Cerfluniau’n cau pen y mwdwl ar y thema gyda gweithiau tri dimensiwn gan artistiaid benywaidd, hefyd o’r Casgliad.  Rydyn ni hefyd yn dathlu’r rhodd gan Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru, ‘Sul y Blodau, Beaulieu’ gan Gerda Roper a hongiai gynt yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Ochr yn ochr â’r gwaith pwysig hwn yn Ystafell y Gwladwyr ceir paentiadau Gerda a grëwyd ar gyfer ein hymwelwyr iau ac wedi’u hongian ar uchder priodol. Yn cwblhau ein lein-yp o ferched yn unig mae Natalie Chapman. Artist arobryn oedd Natalie yng Nghystadleuaeth Gelfyddyd y Tabernacl yn 2019 ac mae ei harddangosfa un-ddynes gyntaf ym MOMA i’w gweld yn Ystafell y Pulpud.

Rydyn ni’n croesawu’r cyfle hwn i gynnal ein harddangosfa gyntaf sydd wedi’i neilltuo i Gelfyddyd Menywod yng Nghymru, ac yn wir, i neilltuo ein holl orielau i artistiaid benywaidd yn unig am y tro cyntaf, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Sefydliad Paul Mellon am wneud hyn yn bosibl. Bydd yna rywbeth i bawb a chroeso i chi i gyd. Gan gynnwys y dynion!

 

Ein Hailagor Arfaethedig

Yn amodol ar gyfyngiadau’r Llywodraeth, o ddydd Sadwrn 29 Mai, bydd MOMA Machynlleth ar agor 2.5 diwrnod yr wythnos ar ddyddiau Mercher a Gwener o 10yb tan 4yp, ac ar ddyddiau Sadwrn, o 10yb tan 1yp. Ein harddangosfeydd agoriadol yw Celfyddyd Menywod yng Nghymru – Golwg Bersonol; Celfyddyd Menywod o Gasgliad y Tabernacl; Chwarae Cuddio, paentiadau gan Gerda Roper, a Natalie Chapman: Yr holl bethau a allaswn fod.

Mae diogelwch ymwelwyr yn bwysig i ni ac mae staff MOMA Machynlleth wedi bod yn brysur yn rhoi trefniadau yn eu lle i helpu i gadw ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff yn ddiogel yn ystod COVID-19. Mae’r trefniadau hyn yn cynnwys: cymryd manylion cyswllt i olrhain a thracio, gwisgo mygydau wyneb yn orfodol (oni bai’ch bod wedi’ch eithrio), mannau diheintio dwylo ar gael ledled yr adeilad, systemau unffordd ar waith yn yr orielau drwyddi draw, gyda mynedfeydd ac allanfeydd ar wahân i ymwelwyr, ymweliadau â’r orielau yn cael eu trefnu ymlaen llaw drwy apwyntiad yn unig, yr archebion yn cael eu cyfyngu i un aelwyd estynedig i bob apwyntiad a threfniadau glanhau ychwanegol yn eu lle gydag arwynebau’n cael eu glanhau rhwng pob apwyntiad.

Gall ymwelwyr weld a oes slot ar gael a threfnu eu hymweliad ar-lein o ddydd Llun 24 Mai. Rydyn ni’n annog ymwelwyr i archebu ar-lein ond lle nad yw hyn yn bosibl, gallwch hefyd wneud archebion drwy alw 01654 703355, ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10yb a 4yp.