Mae’r arddangosfa yn dangos gwaith creadigol a dychmygol sy’n cael ei gynhyrchu gan ddisgyblion Ysgol Bro Hyddgen yn 2026, sy’n dilyn cyrsiau arholiad TGAU a Lefel A. Mae disgyblion yn dewis astudio Celf a Dylunio neu i ganolbwyntio mewn Celf a Dylunio Tecstilau.

Mae’r gwaith yn adlewyrchu ystod o themâu a dulliau y caiff disgyblion eu hannog i ymateb yn unigol yn ystod astudio’r cyrsiau. Mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos yn ddetholiad gan ddisgyblion o flwyddyn 10 hyd at flwyddyn 13.

Mae’r gwaith hefyd yn adlewyrchu’r amrywiaeth eang o dechnegau mae’r disgyblion yn cael y cyfle i’w datblygu, sy’n cynnwys lluniadu, peintio, collage, cyfryngau cymysg, argraffu, ffotograffiaeth, batic, lliwio, appliqué, ffasiwn a 3D. Mae gweithdai artistiaid, ymweliadau ag orielau lleol ac yn Llundain a mannau o ddiddordeb lleol yn ysbrydoliaeth i ddisgyblion.