Nid yw tocynnau ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn bellach ar werth ond
byddant ar gael i’w prynu wrth y drws.

Bydd Twm Morys, llenor, cerddor a mab ieuengaf Jan Morris, yn sgwrsio ag Iwan Bala a’r Athro Angharad Price ddydd Sul Tachwedd 28 yn y Tabernacl.

Mae Iwan Bala yn artist toreithiog, yn awdur ac yn ddarlithydd o Gymru. Mae wedi cynnal arddangosfeydd unigol yn flynyddol ers 1990, ac wedi cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd amrywiol yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi cyhoeddi llyfrau a thraethodau ar gelf gyfoes yng Nghymru gan ddarlithio yn gyson ar y pwnc.

Mae Angharad Price yn awdur dwy nofel, dwy gyfrol o ysgrifau, yn ogystal ag astudiaethau ar lenyddiaeth Gymraeg. Mae’n Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Cyrhaeddodd ei chyfrol ddiweddaraf, casgliad o ysgrifau o’r enw ‘Ymbapuroli’, restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021.

Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, o’r 15fed o Dachwedd 2021 bydd angen i chi defnyddio’r pàs COVID y GIG i ddangos statws brechu llawn neu Brawf Llif Ochrol negyddol arnoch i fynychu unrhyw ddigwyddiadau yn yr ŵyl .

Rhaid i chi wneud cais am Bàs COVID y GIG drwy wefan y GIG:

https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/