Bydd casgliad o ehangder gwaith Terence yn cynnwys rhai o’i ddarluniau pensil mawr, inc ar fwrdd sgrafell a phaentiadau cyfrwng cymysg.

Mae Terence yn beintiwr bywyd gwyllt enwog gyda gwaith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat ledled y byd. Mae ei waith wedi’i atgynhyrchu mewn llawer o lyfrau gan gynnwys yr holl ddarluniau ar gyfer ‘Collins British Birds’. Ar ôl cael ei ysbrydoli gan arsylwi yn y maes, a gweld adar fel y maent, mae Terence yn ymdrechu i ddal nid yn unig y manylion ond personoliaeth ei destunau yn ei baentiadau. Cyfeiria hefyd at ei gasgliad helaeth o sbesimenau.