Caneuon, dawnsiau a straeon gan y dawnsiwr tap o fri rhyngwladol, Demi Remick. Mae hi’n dod ag Oes Aur adloniant yn fyw gyda chaneuon annwyl, dawnsio tap disglair, ac ychydig o arddull ‘burlesque’; gan gyfuno swyn bythol Liza Minnelli ag egni bywiog, syfrdanol Gene Kelly.

Yn ymuno â hi mae ei chyd-aelodau o Postmodern Jukebox, Tony Kieraldo ar y piano a Jack Amblin ar y drymiau.

Mae Demi Remick yn ddawnsiwr tap, perfformiwr *burlesque*, a choreograffydd. Mae Demi wedi teithio ledled y byd gyda Postmodern Jukebox, wedi perfformio *burlesque* i Spiegelworld, ac mae’n aelod o staff addysgu confensiwn DanceMakers. Mae hi wedi perfformio mewn lleoliadau fel Tŷ Opera Sydney, y Royal Albert Hall, a Radio City Music Hall. Enillodd radd BFA mewn Dawns o SUNY Purchase Conservatory, ac mae hi’n dysgu dawnsio tap i bob lefel yn rhyngwladol.

Ar gyfer pobl dros 18 oed yn unig