Yn Rhondda’n Tanio, mae paentiadau a cherddi yn adlewyrchu ei gilydd, gan fyfyrio ar fywyd yn y cwm a enwir neu yn yr ardal o amgylch Bae Ceredigion, gyda’i gorwelion eang. Mae Havard yn edrych ar ei amgylcheddau brodorol drwy lygaid un sy’n perthyn, ond hefyd fel crwydryn y gwnaeth ei gysylltiad hir â Sbaen argraffu arno’r berthynas rhwng barddoniaeth a chelf weledol, a’r manteision a ddaw pan fydd beirdd ac arlunwyr yn anadlu’r un aer.

Fe wnaeth tyfu i fyny mewn cwm ag ochrau serth bennu DNA gweledol Havard. Deg milltir yn ddyddiol i’r ysgol a deg yn ôl, i fyny’r grisiau mewn bws deulawr gyda brigiadau o graig a slag yn fflachio heibio – fe adawodd hyn ei ôl. Gwylio ei dad yn y ffenest, yn crymanu ei wddf i graffu ar y mynydd am fwlch yn y niwl llifeiriol… Cafodd y delweddau hyn eu prosesu’n araf ac mae dyfnder yr arsylwi hwn yn disgleirio trwy ddelwedd a thestun.

Yn gain, deheuig a bywiol, mae’r casgliad hwn yn ymgorfforiad o bobl, lleoedd a chymunedau sy’n ein gwahodd i wrando a gweld.