Arddangoswyd ‘Conversation with the Silent’ am y tro cyntaf yng Nghapel yr Ymneilltuwyr yn Kensal Green, Llundain, 2009 ac mae wedi’i ddangos mewn gwahanol leoliadau ers hynny. Crëwyd y prif astudiaethau i roi hunaniaeth gerfluniol i erthyglau penodol yn y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol sy’n amddiffyn yn uniongyrchol allu unigolyn i feddwl a mynegi ei hun yn rhydd.

Mae’r hawliau sylfaenol hyn yn sail i gymdeithas rydd ac agored ond yn aml maent yn cael eu cymryd yn ganiataol ac yn cael eu pardduo’n barhaus. Mae’r Gosodiad hwn yn darparu eiliad i wynebu’r materion hyn ac agor deialog goddrychol ar y pwnc.