Winifred Coombe Tennant (1874–1956) oedd noddwr mwyaf dylanwadol ei chyfnod i artistiaid ifainc Cymru. Roedd yn unigolyn rhyfeddol mewn ffyrdd eraill hefyd – yn gyfryngydd seicig pwysig a gafodd ei hastudio dros flynyddoedd lawer gan y Gymdeithas Ymchwil Seicig; yn ffeminydd; yn etholfreintwraig; ac yn wleidydd Rhyddfrydol a fu’n angerddol iawn yn ei chefnogaeth i hunanlywodraeth i Gymru ac Iwerddon.

Hanesydd celf yw Peter Lord, awdur The Tradition: a New History of Welsh Art, 1400–1990. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol am destun y sgwrs hon: Winifred Coombe Tennant. A Life through Art (Aberystwyth, 2007) a Between Two Worlds. The Diary of Winifred Coombe Tennant 1909–1924 (Aberystwyth, 2011). Cyhoeddwyd ei gyfrol ddiweddaraf, Looking Out: Welsh Painting, Social Class and International Context gan Parthian yn 2020.

Archebwch docyn i’r sgwrs hon trwy’r tudalen Saesneg (Cliciwch y ddolen yn y dde uchaf)