Abel Selaocoe
Chesaba

 

Mae’r soddgrythor disglair o Dde Affrica, Abel Selaocoe, yn symud yn ddiwnïad ar draws genres ac arddulliau. Ynghyd â’i driawd Chesaba mae’n cyflwyno yn ei ffordd arbennig ei hun gerddoriaeth o gyfandir Affrica. Mae Abel yn cyfuno perfformio meistrolgar â byrfyfyrio, canu a defnyddio’r corff fel offeryn taro ac mae ei berfformiadau egnïol yn asio’r clasurol, jazz a cherddoriaeth fyd mewn ffordd unigryw.