Mae’r goleuadau’n diffodd ac mae’r ffilm yn dod ymlaen. Y pum munud cyntaf yna sy’n dyngedfennol i ffilm ddal eich sylw a’ch tynnu i mewn. Dyma sut mae Neale Howells wastad wedi meddwl am ei weithiau celf mawr, mae eisiau iddyn nhw wneud argraff ar unwaith. “Rydych chi’n creu gweithiau mawr yn y stiwdio gan obeithio y byddan nhw’n cael eu gweld. Gyda’r arddangosfa hon rwy’n ffodus i gael y cyfle i arddangos rhai o’r gweithiau hynny.”

Daw tarddiad yr holl weithiau hyn o Neale, marciau damweiniol a’r dychymyg. Ailadeiladwyd llawer o’r gwaith yn y cyfnod clo, gan gyfuno gwaith hŷn i sefydlu rhai newydd. Gall y siâp fod yr un mor bwysig â’r lliw a ddefnyddir, yn elfen bwysig o sut mae’r gwaith yn datblygu a sut mae popeth yn berthnasol. Weithiau mae Neale yn gwrth-ddweud ei hun: “roedd yna reolau y gwnaethoch chi eu dysgu ond rydych chi’n eu rhwygo, rydych chi’n troi’r gwaith o gwmpas ac yn cymysgu’r ffordd rydych chi’n edrych arno. Dwi’n teimlo bod ffordd o weithio yn bwysig i artist. Ni ddylai artistiaid gael eu rheoli gan y gwaith ond yn hytrach dylen nhw fod yn rheoli. Mae rhai gweithiau i fod, tra gyda rhai rydych chi mewn brwydr gladiatoraidd i’r diwedd. Wrth gwrs, rhaid i’r artist ennill yn y pen draw, ond ambell waith gall fod yn gael a chael.”