Mae yna dros ddeugain mlynedd ers i mi ymweld ag India am y tro cyntaf. Ers hynny rydw i wedi dychwelyd droeon i ogledd a de’r wlad i deithio, peintio, archwilio, ac yn fwyaf diweddar, i wirfoddoli fel athro Saesneg mewn ysgol wledig yn Uttarakhand.

Mae hon yn arddangosfa o waith newydd yn bennaf, ochr yn ochr ag ychydig o baentiadau cynharach a fenthycwyd o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Mae dyfrlliw yn gyfrwng sy’n addas ar gyfer tryloywder ac uniongyrchedd. Mae melyn Indiaidd yn lliw hardd; lliw tyrmerig neu ddŵr wedi’i drwytho â saffrwm. Rydw i’n ei ddefnyddio mewn dyfrlliw i baentio’r lampau llosgi menyn mewn gompas Bwdhaidd, golau’r haul yn hwyr yn y prynhawn ar demlau tywodfaen, y wawr wedi’i hadlewyrchu ar wyneb afonydd sanctaidd India, a defod tân gysegredig Ganga Aarti, a berfformir bob nos ar lannau’r Ganges.

Mae Simon Pierse (g.1956) yn aelod ac yn gyn is-lywydd y Gymdeithas Ddyfrlliw Frenhinol, yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Ddyfrlliwiau Awstralia ac yn gydymaith artistig o’r Alpine Club. Mae ei breswyliadau artist yn cynnwys Ysgol Ramadeg Melbourne (1992-3), GAAA, Michigan (1998), Dunmoochin, Melbourne (2007-8 & 2018), FIAF, Abruzzo (2017) a Chymrodoriaeth Artistiaid ym Mhrifysgol La Trobe, Melbourne (2009). Mae ei waith mewn llawer o gasgliadau cyhoeddus, gan gynnwys MOMA Machynlleth, Coleg y Brifysgol, Llundain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Heritage Malta, Amgueddfa Gelf Qingdao, Tsieina a’r Casgliad Brenhinol.


Gweithiau a arddangosir