Cyfle i wylio’r soprano Gymreig enwog Rebecca Evans yn hyfforddi grŵp o gantorion ifanc dethol. Galwch heibio i un neu’r ddwy sesiwn dosbarth meistr ac yna ymuno â ni am gyngerdd y Dosbarth Meistr am 4.30pm pan gaiff gwaith heddiw ei gyflwyno mewn perfformiad terfynol ar Lwyfan y Tabernacl.