Mark Padmore yw un o’r tenoriaid uchaf ei barch yng ngwledydd Prydain, boed yn y neuadd gyngerdd fel yr Efengylwr yn Dioddefiadau Bach neu ar y llwyfan yn operâu Britten neu fel datgeiniad. Daw’r cyfansoddwyr sydd wedi ysgrifennu iddo o dudalennau rhyw wyddoniadur o gerddoriaeth Seisnig dros y tri degawd diwethaf, gan gynnwys Harrison Birtwistle, Mark-Anthony Turnage, Alec Roth, Sally Beamish a Huw Watkins. Bydd Mark Padmore yn siarad â Christopher Cook am ei yrfa a’r cyfansoddwyr a’r cerddorion y mae wedi cydweithio â nhw.