Rydym yn gyffrous iawn i fedru llwyfannu arddangosfa sy’n rhoi pwyslais ar galon daeareg Cymru, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn nhreftadaeth ddiwydiannol Cymru, ac sy’n tynnu sylw at hanes cymharol ddiweddar Machynlleth. Yn yr arddangosfa hon byddwn yn dathlu chwareli a gweithfeydd llechi Gogledd Cymru, yn enwedig yr hyn a ddigwyddodd yng Nghorris ac Aberllefenni gerllaw. Byddai’r llechi a allforiwyd o’r safleoedd hyn yn mynd trwy Fachynlleth, i ddechrau i Dderwenlas ac Aberdyfi ac yna’n ddiweddarach i Reilffordd y Cambrian; allforion a ddaeth mor hanfodol i ffawd y dref yn y 19eg Ganrif.

Er mwyn tynnu sylw at yr hanes hwn, defnydd a harddwch llechen gerfiedig, rydym yn falch iawn o arddangos gwaith cerflunydd o Geredigion, Jon Evans, cerfiwr llechi sy’n gweithio’n gyfan gwbl gyda’r llechen hynod safonol sydd yn dal i’w gweld yn Aberllefenni.

Wrth lwyfannu’r arddangosfa, cofiwn am John S Mason 1962-2024, gŵr y cafodd ei gyfraniad i’r arddangosfa hon ei gwtogi gan ei farwolaeth sydyn a thrist.