LITTLE RICHARD: I AM EVERYTHING (15) | USA 2023 |101 munud, Saesneg | Cyfarwyddwr: Lisa Cortés. Serennu: Little Richard.

 

Heb os nac oni bai, roedd Richard Wayne Pennimen, a adnabwyd gan y byd fel Little Richard, yn un o dadau bedydd roc a rôl, yn cychwyn llwybr tanbaid i Elvis, The Beatles, Jimi Hendrix, Prince, David Bowie a phawb yn y canol. Mae’r cyfarwyddwr Lisa Cortés yn defnyddio cyfoeth o ddeunydd archifol i ddod â tharddiad Du a Cwiar roc a rôl yn fyw, gan ddymchwel y prif naratif gwyngalchog; mae cyfweleion yn cynnwys teulu, ffrindiau, cydweithredwyr cerddorol a cherddorion ac artistiaid sydd wedi’u dylanwadu gan ei waith a’i ddelwedd. Y canlyniad yw ffilm aml-haenog, sy’n archwilio ac yn cofleidio byd mewnol cymhleth Little Richard gyda’r holl droeon a gwrthddywediadau.

Tocynnau sinema ar gael wrth y drws o 6pm (cerdyn neu arian parod)