Arddangosfa o ffolios, paentiadau a phrintiau sy’n archwilio Coedwigoedd Glaw Celtaidd Gogledd Cymru a Choedwig Is-Antarctig De Chile.

Ers 2010, rydym wedi cwrdd bob tymor i weld a chofnodi drwy dynnu lluniau, peintio ac ysgrifennu am ein profiadau o fod mewn natur. Mae hyn wedi cyfoethogi ein hymarfer fel artistiaid.

Mae tri ffolio, ochr yn ochr â phaentiadau cysylltiedig, wedi’u cynnwys yn yr arddangosfa hon:

Gardd Fwsogl – Coedwig Law Eryri Cyfres o bum ffolio unigryw o baentiadau, printiau a thestun dwyieithog digidol o fwsoglau a llysiau’r afu dethol a geir yng Ngheunant Llennyrch ger Maentwrog, Eryri. Ym mhob tymor, gwnaethom baentiadau o le, sain a chynefin yn y coetir ac, yn ddiweddarach yn ein stiwdios, gwnaethom baentiadau microsgop yn ymateb i’r mwsoglau a’r llysiau’r afu (bryoffytau) a gasglwyd.

 Paentiadau cysylltiedig ar gynfas a phapur: fe wnaethon ni ddewis paentiadau microsgop a wnaed gan y llall ar gyfer pob tymor. Gan ddefnyddio pob un fel man cychwyn, gwnaethom baentiadau sy’n gwyro oddi wrth y portreadau arsylwadol o fryoffytau.

Coetir Hafod – Coedwig Law Eryri Dau ffolio unigryw o baentiadau a thestun dwyieithog digidol sy’n cofnodi, dros ddwy flynedd, y newidiadau i goetir wrth iddo gael ei deneuo ac wrth i anifeiliaid gael eu cyflwyno i greu coetir pori mwy amrywiol. Bu i ni beintio samplau bychain o blanhigion o bob cynefin a thymor o dan y microsgop.

 Detholiad o baentiadau wedi’u gwneud yn Hafod ym mhob tymor.

Isla Navarino – Coedwig Is-Antarctig Cyfres o bedwar ffolio o baentiadau gyda thestun digidol yn Gymraeg, Saesneg, Sbaeneg ac Yahgan a wnaed yn ystod ein cyfnod preswyl yng Nghanolfan Ryngwladol Cape Horn, Chile. Fe dreulion ni amser yn cerdded, yn peintio, yn tynnu lluniau ac yn gwneud nodiadau mewn ymateb i’r môr, y goedwig, y dŵr a’r planhigion a’r adar sy’n byw ynddyn nhw ar yr ynys anghysbell hon.

Cwm Einion Fe aethom ati i fraslunio ac i beintio yn y goedwig law Geltaidd ddynodedig hon ger Machynlleth, a’u defnyddio fel man cychwyn ar gyfer dau ddarn print a phaent cydweithredol.

 Paentiadau dethol wedi’u gwneud yng Nghwm Einion.

 

SGWRS ARDDANGOSFA AM DDIM
Dydd Mercher 18 Hydref – 12 Canol Dydd