Daw ysbrydoliaeth Jonathan Retallick (g.1996) o dirwedd a thywydd cythryblus Ynys Môn ac mae’n sianelu profiadau ac emosiynau mwyaf heriol bywyd mewn paentiadau sy’n cyfleu’r union adeg honno mewn amser. Yn 2018, dechreuodd arbrofi gyda ffyrdd arloesol o ddefnyddio a symud paent olew hylif mewn dull dan reolaeth ond hefyd ar hap. Dros y blynyddoedd, esblygodd y broses gan ymgorffori cyfarpar ac offer lluniadu a wnaed â llaw sy’n herio rheolaeth a symudiad y paent.

Drwy adeiladu haenau o baent ac wedyn eu tynnu, datblygodd ddull idiosyncratig o baentio, gan arwain at ddelweddau sy’n ymddangos yn organig ac sy’n edrych yn ffotograffig bron. Drwy reoli sŵn gweledol yn fwriadol ym mhob llun, mae’r artist yn ceisio darparu llwyfan agored sy’n creu rhyngweithiad deinamig rhwng y gwyliwr a’r ddelwedd, gan gynnig lle i fyfyrio a dehongli personol.