Ganed Jack Crabtree yn Rochdale ym 1938. Astudiodd yng Ngholeg Celf Rochdale o 1955 i 1957 cyn mynd ymlaen i Goleg Celf St Martin ac Ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain. Ym 1974 comisiynwyd Jack Crabtree gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol i ddogfennu bywyd ac amodau glowyr ym meysydd glo De Cymru. Parhawyd â’r gwaith hwn trwy Gymrodoriaeth Celfyddydau Gregynog o Brifysgol Cymru.