Trwy baentio mae Guto Morgan yn archwilio ac yn ail-werthuso syniadau sy’n ymwneud â lleoliad ac amser. Yn ei arddangosfa unigol gyntaf ym MOMA Machynlleth, mae Morgan yn cyflwyno cyfres o baentiadau sy’n canolbwyntio ar gynefin a thirwedd atgofus Ystrad Meurig. Mewn corff newydd o waith, mae’n defnyddio strategaethau ymarferol tuag at ffyrdd newydd o greu, gan groesawu nid yn unig penodoldeb deunydd, ond hefyd alcemi a chyd-ddigwyddiad ar hyd y ffordd. I Morgan mae paentio yn dod o fod yn agored, ac yn dod o’r cof ac o brofiadau corfforol: cawl lluosog lle mae atgofion, emosiynau a syniadau yn cwrdd ac yn syntheseiddio pethau newydd. Yn Tir mae pob paentiad yn ymarfer mewn cyfaddawd ac yn ymateb i gyfres o ddigwyddiadau a datrysiadau; cofnod o amser a dreuliwyd yn edrych, meddwl, teimlo a symud.