Mae’r ffilm a’r gosodiad yn dilyn cymeriad sy’n dyheu am foddhad mewn byd sy’n fwyfwy heriol. Dilynwn ei chwiliad am hapusrwydd trwy ddefnyddio baglau emosiynol amrywiol. Golwg ar ymddygiad dynol a’r cysyniad cymharol fodern o dderbyn dilysiad trwy gyfryngau cymdeithasol. Mae’r gosodiad sy’n cyd-fynd ag ef yn gosod y gwyliwr yng nghanol byd Joe, gan eich gwahodd i feddwl am eich hunaniaeth a’ch ymddygiad eich hun mewn perthynas â’r themâu oddi mewn.