Elisabeth Leonskaja

 

Anrhydedd i Ŵyl Machynlleth yw croesawu’r pianydd mawr, Elisabeth Leonskaja. A hithau wedi derbyn Gwobr Cyflawniad Oes Cerddoriaeth Glasurol Ryngwladol (ICMA) 2020, teg honni bod Leonskaja ymhlith pianyddion mwyaf nodedig ein hoes. Cynhysgaeth aruchel blynyddoedd olaf bywyd Beethoven yw ei rhaglen, sef y tri olaf o’i ddeuddeg ar hugain sonata. Fiw i chi golli’r perfformiad yma.

Beethoven:
Sonata No. 30 in E major Op. 109
Sonata No. 31 in A flat Op. 110
Sonata No. 32 in C minor Op. 111