Nid yw tocynnau ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn bellach ar werth ond
byddant ar gael i’w prynu wrth y drws.

Mae Derek Johns wedi bod yn lyfrwerthwr, yn olygydd, yn gyhoeddwr ac yn asiant llenyddol. Bu’n asiant i Jan Morris am ugain mlynedd, ac ers ymddeol, mae wedi ysgrifennu Ariel: A Literary Biography of Jan Morris, a gyhoeddwyd gan Faber yn 2016. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd o’r Royal Society of Literature ac wedi bod yn ymddiriedolwr English PEN, ac yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol y Booker Prize Foundation.

Mae Paul Clements yn newyddiadurwr llenyddol ac wedi ysgrifennu pum llyfr teithio am Iwerddon. Mae wedi ysgrifennu astudiaeth beirniadol o Jan Morris a gyhoeddwyd fel rhan o gyfres Writers of Wales ac yn 2006 golygodd ‘Festschrift’ i ddathlu ei phenblwydd yn 80. Ef yw awdur Romancing Ireland: Richard Hayward 1892-1964, a addaswyd ar gyfer rhaglen deledu ar y BBC. Mae hefyd yn gweithio ar gofiant Jan Morris Life from Both Sides i’w gyhoeddi yng Ngwanwyn 2022.

Mae’r ddau wedi treulio blynyddoedd yn gweithio gyda Jan, bydd Derek a Paul yn rhannu straeon ac anecdotau am ei bywyd a rôl bwysig ysgrifennu ei bywgraffiadau yn Y Tabernacl ddydd Sadwrn Tachwedd 27.

Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, o’r 15fed o Dachwedd 2021 bydd angen i chi defnyddio’r pàs COVID y GIG i ddangos statws brechu llawn neu Brawf Llif Ochrol negyddol arnoch i fynychu unrhyw ddigwyddiadau yn yr ŵyl .

Rhaid i chi wneud cais am Bàs COVID y GIG drwy wefan y GIG:

https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/