Nid yw tocynnau ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn bellach ar werth ond
byddant ar gael i’w prynu wrth y drws.

Ysgrifenna Dea Birkett am gymunedau bychain sy’n teithio yn ein plith ond na wyddem lawer amdanynt. Caiff ei hysbrydoli gan ei phrofiadau cynnar yn teithio a pherfformio mewn syrcas. Mae hi’n cyfrannu’n gyson i sawl cylchgrawn a phapur newydd rhyngwladol. Cafodd ei hethol yn gymrawd o’r Royal Society of Literature ac hefyd bu’n gymrawd o’r Royal Literary Fund ym Mhrifysgol Brighton.

Yn awdur toreithiog, mae ei llyfrau yn cynnwys Off the Beaten Track – Three Centuries of Women Travellers. Roedd y llyfr hwn yn cyd-fynd ag arddangosfa o’r un enw yn y National Portrait Gallery, Llundain. Yma bu iddi gyfarfod â Jan Morris a ysgrifennodd y cyflwyniad.

Bydd Dea yn Y Tabernacl ddydd Sadwrn Tachwedd 27, yn ein harwain drwy hanes merched yn teithio. Bydd yn ail-ymweld â’i sgyrsiau gyda Jan Morris i drafod yr heriau, llwyddiannau, a’r cysylltiad agos sydd rhwng merched sydd wedi teithio i leoedd amgen.

Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, o’r 15fed o Dachwedd 2021 bydd angen i chi defnyddio’r pàs COVID y GIG i ddangos statws brechu llawn neu Brawf Llif Ochrol negyddol arnoch i fynychu unrhyw ddigwyddiadau yn yr ŵyl .

Rhaid i chi wneud cais am Bàs COVID y GIG drwy wefan y GIG:

https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/