Ganed David Ware yng Nghwm Rhondda ond ymfudodd i Ganada yn ddyn ifanc gan astudio yng Ngholeg Celf Ontario fel myfyriwr fin nos. Mae gan David ei arddull paentio ei hun, gyda pheth dylanwad gan y Grŵp o Saith o Ganada ac mae’n paentio tirluniau fel cerddi o olau. Hefyd wedi’i gynnwys gyda’r arddangosfa yma ceir detholiad o’i waith turnio pren. Yn ôl David, “Dw i’n paentio i ryddhau fy ysbryd ac yn turnio pren i ymlacio”.