Dr James January-McCann

 

Bydd Dr James January-McCann yn cyflwyno Darlith Hallstatt 2022 ar enwau lleoedd Dyffryn Dyfi. Sgolor yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yw Dr January-McCann a Swyddog Enwau Lleoedd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Bydd y sgwrs hon yn twrio i etymoleg Dyffryn Dyfi ac yn seiliedig ar brosiect y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, adnodd arloesol Dr January-McCann sy’n cynnwys cannoedd o filoedd o enwau lleoedd wedi’u casglu o fapiau hanesyddol a ffynonellau eraill. Mae’r prosiect yma’n cynnig cipolwg rhyfeddol ar ddefnydd tir, archaeoleg a hanes Cymru.

 

Noddir yn garedig gan Y Wynnstay