Rheolodd Mike Alexander y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ledled Cymru, bu’n warden Ynys Sgomer am 10 mlynedd ac mae bellach yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol Bioleg, yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol ac yn ddarlithydd anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor. Ei lyfr ‘Management Planning for Nature Conservation’ yw’r testun safonol ar y pwnc. Mae hefyd yn ffotograffydd medrus iawn ac mae ei luniau i’w gweld yn gyson mewn cylchgronau fel ‘BBC Countryfile’. Yn ddiweddar mae wedi cyhoeddi ei lyfr hynod ddiddorol ‘Ynys Sgomer’, sydd wedi’i ddarlunio’n hyfryd gyda’i ffotograffau ei hun.

Tocynnau yn cynnwys lluniaeth.