Nid yw tocynnau ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn bellach ar werth ond
byddant ar gael i’w prynu wrth y drws.

Mae’r awdur a’r newyddiadurwr llawrydd wedi byw yn Mynyddoedd y Cambria, ger Rhaeadr, ers pum mlynedd ar hugain, ac yn arbenigo mewn materion amgylcheddol a chefn gwlad. Mae ei lyfrau yn cynnwys The Red Tail: Sharing the Seasons with a Hawk ac Urban Dreams, Rural Realities. Mae Daniel hefyd yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer The Telegraph, The Express a Country Living, ynghyd ag adolygiadau o lyfrau ar gyfer The Guardian.

Datblygodd ei ddiddordeb mewn cadw hebogiaid gan ddwy dylluan a lwyddodd i ddofi pan ddaethant i glwydo ar ei fferm. Cyhoeddwyd The Owl House y llynedd. Llyfr yw hwn sy’n olrhain ei berthynas â’r adar a’r bywyd gwyllt sydd o amgylch ei gartref. Bydd yn trafod y llyfr yn Y Tabernacl, ddydd Sul Tachwedd 28.

Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, o’r 15fed o Dachwedd 2021 bydd angen i chi defnyddio’r pàs COVID y GIG i ddangos statws brechu llawn neu Brawf Llif Ochrol negyddol arnoch i fynychu unrhyw ddigwyddiadau yn yr ŵyl .

Rhaid i chi wneud cais am Bàs COVID y GIG drwy wefan y GIG:

https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/