Thema: Fy Llecyn Heddychlon

DARLLENWCH Y CANLYNOL YN OFALUS CYN CYSTADLU

Gall artistiaid gyflwyno UN darn o waith. Dylai hwn fod yn waith newydd wedi’i ysbrydoli gan y thema.
Gall y gwaith fod mewn unrhyw gyfrwng, gan gynnwys tecstilau a ffotograffiaeth. Dim gwaith a gynhyrchwyd gan AI.
Dylai’r gwaith fod yn ddau ddimensiynol. Derbynnir fframiau bocs. Dim blychau golau na gwaith trydanol.
Rydym yn defnyddio platiau drych i hongian gweithiau. Byddwn yn cyflenwi’r platiau drych.
I osod platiau drych rydym yn defnyddio sgriwiau, felly rhaid i bob gwaith fod wedi’i fframio neu â chefn pren, caniateir cynfas heb ei fframio ar estynnydd pren.
Trwch lleiaf y ffrâm neu’r gefnogaeth: 15mm
Dim fframiau clip na fframiau metel. Dim papur/dalennau cardiau rhydd.
Rhaid cyflwyno gwaith fel un eitem (i’w hongian gydag un set o blatiau drych).
Rhaid i bob gwaith fod ar werth, gyda phris gwerthu realistig. Cofiwch gynnwys y comisiwn, (gweler yr adran ‘Gwerthu Gwaith’).

Tâl Cystadlu

Gellir talu’r tâl cystadlu ag arian parod neu gerdyn. Yn bersonol, dros y ffôn neu ar-lein.
Ar ôl talu’r tâl cystadlu byddwch yn derbyn pecyn mynediad wedi’i argraffu.
Mae’r pecyn mynediad yn cynnwys: copi o’r rheolau, ffurflen gais, a label gwaith melyn.

Maint

Maint mwyaf, gan gynnwys y ffrâm, 36 x 48 modfedd (914 x 1219mm).
Mae hyn yn golygu na ddylai’r ochr hiraf fod yn fwy na 48 modfedd (1219mm), ac ni ddylai’r ochr byrraf fod yn fwy na 36 modfedd (914mm).

Paratoi at Gyflwyno

Cwblhewch y ffurflen gais a ddarperir.
Gellir dychwelyd y ffurflen gais atom gyda’r gwaith neu ymlaen llaw.
Cwblhewch bob un o dair rhan y label melyn. Gadewch bob rhan ynghlwm.
Dylid gadael y blychau ‘Rhif Gwaith’ yn wag.
Cysylltwch y label â chefn y gwaith gyda llinyn tenau, yn ddigon hir i’r label hongian dros flaen y gwaith.
Ysgrifennwch y wybodaeth ganlynol ar gefn y gwaith: Enw, teitl, cyfrwng, pris.

Danfon y Gwaith

Wythnos dderbyn: Dydd Llun 16 Mehefin i ddydd Gwener 20 Mehefin 2025, 10yb i 4yp.
Gellir cyflwyno gwaith yn gynharach gyda threfniant ymlaen llaw.
Gellir cyflwyno gweithiau yn bersonol neu drwy cludwr parsel / post.
Os ydych chi’n danfon gwaith yn bersonol, tynnwch yr holl ddeunydd pacio a’i gymryd gyda chi.

Bydd gofal da yn cael ei gymryd o bob gwaith a gyflwynir.
Ni all MOMA Machynlleth gymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod neu golled, sut bynnag y’i hachosir.
Cynghorir artistiaid i yswirio eu gwaith rhag difrod neu ladrad.

Beiriadu

Bydd panel o feirniaid yn cael eu dewis gan MOMA Machynlleth.
Bydd y beirniaid yn dewis nifer gyfyngedig iawn o weithiau i’w cynnwys yn yr arddangosfa.
Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol.

Hysbysu

Rhowch amlen wedi’i stampio a’i chyfeirio atoch eich hun gyda’ch ffurflen gais.
Bydd rhan waelod y label melyn yn cael ei dychwelyd atoch yn yr amlen hon.
Bydd hyn yn dweud wrthych a yw eich gwaith wedi cael ei ddewis ar gyfer yr arddangosfa ai peidio.
Dyma hefyd eich derbynneb i gasglu’r gwaith – cadwch ef yn ddiogel.

Cysylltir ag enillwyr gwobrau dros y ffôn.

Arddangosfa

Mae’r arddangosfa’n rhedeg o ddydd Sadwrn 28 Mehefin i ddydd Mercher 3 Medi 2025.
Bydd yr arddangosfa’n cael ei hagor yn swyddogol am hanner dydd, ddydd Sadwrn 28 Mehefin gyda ‘golwg breifat’ a seremoni wobrwyo.
Mae croeso i bob cystadleuydd a’u teulu a’u ffrindiau fynychu’r digwyddiad hwn.

Gwerthu Gwaith

Os gwerthir gwaith, didynnir comisiwn o 1/3 gan MOMA Machynlleth.
Cofiwch gynnwys y comisiwn hwn yn eich pris gwerthu.
Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer TAW, rhowch wybod i ni.

Os gwerthir gwaith, bydd artistiaid yn cael gwybod a byddwn yn gofyn am fanylion banc i drefnu taliad.
Mae MOMA Machynlleth yn gweithredu cynllun talu fesul cam o’r enw ‘Picture Plan’.
Mae Picture Plan yn caniatáu i brynwyr ledaenu taliadau dros uchafswm o 12 mis.
Ni fydd gweithiau sy’n cael eu prynu gan Picture Plan yn cael eu rhyddhau i brynwyr nes bod y taliad wedi’i gwblhau.

Bydd artistiaid yn cael eu talu drwy drosglwyddiad banc pan fyddwn wedi derbyn taliad llawn gan y prynwr.
Noder: Os yw gwaith yn cael ei brynu gan Picture Plan, gallai hyn fod hyd at 12 mis yn ddiweddarach.

Casglu Gwaith

Os na chaiff eich gwaith ei ddewis i’w arddangos, casglwch ef cyn 27 Mehefin 2025.
Mae’r holl waith o’r arddangosfa sydd heb ei werthu i’w gasglu rhwng dydd Llun 8 a dydd Gwener 12 Medi 2025, rhwng 10am a 4pm.
Mae’n ddrwg gennym na allwn drefnu dychwelyd gweithiau drwy’r post na cludwr parsel.
Noder: Mae gan MOMA Machynlleth yr hawl i gael gwared ar waith heb ei gasglu ar ôl 12 Medi 2025.
Os oes angen mwy o amser arnoch i gasglu gwaith, trefnwch hyn gyda ni.

Cyfeiriad a Manylion Cyswllt

Y cyfeiriad ar gyfer cyflwyniadau yw Cystadleuaeth Gelf y Tabernacl 2025, MOMA Machynlleth, Heol Penrallt, Machynlleth, Powys, SY20 8AJ
Ffôn: 01654 703355.
E-bost: info@moma.machynlleth.org.uk

Os ydych yn ansicr o unrhyw beth neu angen eglurhad, cysylltwch â ni.