CYSTADLEUAETH GELF Y TABERNACL 2023

Thema: Cyfrinach
 

GWOBRWYON

Gwobr Gyntaf i Oedolion: £1200
Ail Wobr i Oedolion: £600 (Rhodd Cyfeillion y Tabernacl)
Trydydd Wobr i Oedolion: £300

Gwobr Oedran 12-17: £100
Gwobr 11 Oed a Iau: £50
 

RHEOLAU

Gall artistiaid gyflwyno un darn o waith newydd a ysbrydolir gan y thema. Rhaid i waith sy’n cynnwys mwy nag un rhan (hy triptych) fod ynghlwm yn galetsyth fel un eitem. Gall y gwaith fod mewn unrhyw gyfrwng, gan gynnwys tecstil a ffotograffiaeth a dylai fod yn ddau ddimensiynol. Ni dderbynnir blychau golau na gweithiau sydd angen cyflenwad trydan.

Rhaid i’r gwaith fod yn addas i’w hongian wrth blatiau drych ar bob ochr. Defnyddiwn ein platiau drych paentiedig ein hunain os bydd y gwaith yn cael ei ddewis i’r arddangosfa. Ni dderbynnir fframiau metel na fframiau clip. Tynnwch yr holl ffitiadau. Rhaid bod y gwaith ar werth.
 

TÂL CYSTADLU

Oedolion: £17.50
O dan 18: £5
Gellir talu’r tâl cystadlu ar-lein drwy moma.cymru, gyda cerdyn, neu arian parod.

Ar ôl talu eich tâl cystadlu byddwch yn derbyn pecyn gwybodaeth sy’n cynnwys copi o’r rheolau hyn, ffurflen gais, a label melyn i’w osod ar gefn y gwaith. (Os telir Tâl Mynediad ar-lein bydd y ffurflen gais yn cael ei llenwi yn ystod y broses desg dalu)
 

MAINT

Maint mwyaf, gan gynnwys y ffrâm, 36 x 48 modfedd (914 x 1219mm).
Mae hyn yn golygu na ddylai’r ochr hiraf fod yn fwy na 48 modfedd (1219mm), ac ni ddylai’r ochr byrraf fod yn fwy na 36 modfedd (914mm).
 

PARATOI AT GYFLWYNO

Rhaid bod yr wybodaeth ganlynol wedi’i hysgrifennu ar gefn y gwaith: Enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn yr artist, teitl byr a phris y gwaith gan gynnwys comisiwn.

Dylech gwblhau pob un o dair rhan y label. Dylid gadael y tri blwch ‘Rhif y Gwaith’ yn wag. Peidiwch â gwahanu rhannau’r label. Rhaid cysylltu’r label cystadlu i ganol pen uchaf cefn y gwaith â llinyn tenau (digon hir i’r label hongian dros flaen y gwaith).

Os nad ydych wedi talu trwy ein gwefan, llenwch y ffurflen gystadlu a ddarperir. Gellir dychwelyd y ffurflen aton ni gyda’r gwaith neu ymlaen llaw. Os byddwn yn derbyn y ffurflen ymlaen llaw, bydd hyn yn ein helpu i gyflymu’r broses pan fyddwn yn derbyn y gwaith.
 

DANFON Y GWAITH

Dylai gweithiau gyrraedd MOMA Machynlleth rhwng 10am a 4pm, dydd Llun 12 Mehefin hyd at dydd Gwener 16 Mehefin 2023. Gallwch anfon eich gwaith drwy’r post neu gyda chludwr. Rhaid dadlapio’n llwyr weithiau sy’n cael eu danfon yn bersonol wrth gyrraedd. Ni dderbynnir unrhyw weithiau y tu allan i’r dyddiadau a’r amserau hyn.

Cymerir pob gofal am yr holl weithiau a gyflwynir, ond ni all MOMA Machynlleth gymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod neu golled, beth bynnag bo’r achos. Cynghorir artistiaid i yswirio eu gwaith rhag difrod neu ladrad.
 

BEIRNIADU

Detholir panel beirniaid gan MOMA Machynlleth. Bydd y beirniaid yn dewis nifer gyfyngedig iawn o weithiau i’w cynnwys yn yr arddangosfa. Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol.
 

HYSBYSU

Dylid darparu amlen barod wedi’i stampio a’i chyfeirio gyda’ch ffurflen gystadlu. Dychwelir rhan isa’r label cystadlu atoch yn yr amlen i’ch hysbysu os yw’ch gwaith wedi’i ddethol i’w arddangos. Cadwch hwn yn ddiogel gan y bydd ei angen arnoch i gasglu’r gwaith. Hysbysir cyflwyniadau aflwyddiannus hefyd yn yr un ffordd.

Hysbysir enillwyr gwobrau. Bydd yr arddangosfa’n cael ei hagor yn swyddogol gyda ‘golygfa breifat’ a seremoni wobrwyo am hanner dydd ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023. Mae croeso i bawb sy’n cystadlu a’u teulu a’u ffrindiau fynychu.
 

ARDDANGOSFA

Bydd y gweithiau dethol ar ddangos o 24 Mehefin tan 6 Medi 2023, a byddant yn ffurfio rhan o Ŵyl Machynlleth.
 

GWERTHU GWAITH

Os bydd gwaith yn cael ei werthu, tynnir 1/3 comisiwn gan MOMA Machynlleth. Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW rhowch wybod i ni. Mae MOMA Machynlleth yn gweithredu cynllun talu mewn cyfnodau opsiynol o’r enw ‘Picture Plan’ sy’n gofyn am ernes o 10% a thalu’n llawn o fewn blwyddyn.

Hysbysir artistiaid pan fydd gwaith yn cael ei werthu a gwneir taliadau ar ôl diwedd yr arddangosfa neu pan fydd taliadau’r ‘Picture Plan’ wedi’u cwblhau. Ni ryddheir gwaith i’r prynwr nes iddo gael ei dalu amdano.
 

CASGLU GWAITH

Os na fydd eich gwaith yn cael ei ddethol i’w arddangos, dylech ei gasglu o MOMA Machynlleth cyn 30 Mehefin 2023.

Rhaid i’r holl waith o’r arddangosfa sydd heb ei werthu gael ei gasglu yn ystod yr wythnos 11 – 15 Medi 2023, rhwng 10am a 4pm. Yn anffodus, ni allwn drefnu dychwelyd gweithiau drwy’r post neu gyda chludwr.

Dylid nodi: mae MOMA Machynlleth yn cadw’r hawl i gael gwared ag unrhyw waith sydd heb ei gasglu ar ôl 15 Medi 2023.
 

CYFEIRIAD A MANYLION CYSWLLT

Y cyfeiriad ar gyfer cyflwyniadau yw Cystadleuaeth Gelf y Tabernacl 2023, MOMA Machynlleth, Heol Penrallt, Machynlleth, Powys, SY20 8AJ. Ffôn: 01654 703355. E-bost: [email protected]