Glain Dafydd – Telyn

Tocynnau £15 arian parod yn unig ar y drws. 18 & iau am ddim.

 

Mae gyrfa Glain Dafydd yn cynnwys llwyddiannau mewn cystadlaethau megis y 4ème Rencontres Internationales de la Harpe en Île-de-France, Ysgoloriaeth Bryn Terfel a ‘Gwobr Dinas Szeged’ yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Szeged, Hwngari. Cyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadlaethau’r BBC Young Musician a’r Royal Over-Seas League, a daeth yn ail yng nghystadleuaeth ieuenctid Gŵyl Delynau Ryngwladol Mosco. Astudiodd yn yr École Normale de Musique de Paris gydag Isabelle Perrin ac yn yr Academi Gerdd Frenhinol gyda Karen Vaughan. Fel unawdydd a chwaraewraig siambr a cherddorfaol, mae Glain wedi perfformio mewn neuaddau megis Wigmore Hall, Royal Festival Hall, London Coliseum, Cadeirlan Washington, Thursford Christmas Spectacular, Llysgenhadaeth Prydeinig ym Mharis a Bridgewater Hall ym Manceinion. Mae hi hefyd wedi teithio o gwmpas y Deyrnas Unedig a’r Unol Dalaethau, ac wedi perfformio mewn gwyliau megis Harpissima, Suoni d’Arpa yn yr Eidal ac yng Ngŵyl Fringe Caeredin. Fis Mehefin, bydd yn perfformio yn L’Instrumentarium Harpes ym Mharis ac ym Moret-sur-Loing. Mae Glain yn artist gyda Live Music Now ac mae hi’n perfformio mewn ysbytai, cartrefi henoed ac ysgolion anghenion addysgol arbennig. Mae hi’n dysgu yn Queen’s College London ac yn St George’s College Weybridge, ac mae hi’n gyd-gyfarwyddwraig Hampstead Harp Centre.