Rydym yn ymwybodol o broblemau gyda phrynu tocynnau ar-lein. Tra mae’n cael ei drwsio mae tocynnau ar gael dros y ffôn: 01654 703355, yn bersonol o siop MOMA Machynlleth neu drwy glicio ar y ddolen isod.

CLICIWCH YMA AM DOCYNNAU

Syniad Owen Shiers, un o frodorion Dyffryn Clettwr yw’r Cynefin hwn. Mae’n brosiect mapio cerddorol sydd yn tynnu llinell o’r gorffennol i’r presennol – gan gychwyn ym mro ei febyd.

Magwyd Owen ar aelwyd gerddorol Gymreig – o’r alawon swynol a grwydrai o weithdy telynau ei Dad i fywyd ysgol a gwyliau megis yr Eisteddfod a’r Cnapan. Ers graddio o Brifysgol Caerfaddon, mae Owen wedi trafod ei sgiliau fel cyfansoddwr a thechnegydd sain ar draws nifer o brosiectau, gan gynnwys nifer o albymau yn stiwdio ‘Real World’ ac ar y record lwyddiannus ‘Clychau Dibon’ gan Catrin Finch & Seckou Keita gyda chynhyrchydd John Hollis. Enwebydd ar gyfer Gwobrau Gwerin Cymru 2019, mae Cynefin yn rhoi llwyfan i Owen i drin ei sgiliau offerynnol a threfnu wrth ddychwelyd yn ôl i’w gwreiddiau.

Shimli yw ail albwm Cynefin. Gan barhau i wreiddio ei gerddoriaeth yn gadarn yn arferion a llên gwerin Ceredigion, mae’r albwm yn cymryd ei theitl o’r arferiad sydd bellach wedi darfod yng Ngorllewin Cymru o gynnal nosweithiau lawen dros nos mewn melinau a gweithdai. Gan dynnu ysbrydoliaeth o ganu gwerin, traddodiad y beirdd gwlad – yn ogystal â stori a hanes sydd dal ar gof, mae’r albwm yn archwilio’r groesffordd rhwng cerddoriaeth, barddoniaeth, bwyd a byd natur. Mae’r albwm newydd yn ddeiseb gerddorol – ymdrech i roi llais i’r unigryw a’r diflanedig yn ein hoes o homogeneiddio ac anghofio.

Drysau’n agor am 7yh

Tocynnau: £12 | £10 consesiwn | £5 oed 16 ac iau
ar gael o MOMA Machynlleth neu dros y ffon : 01654 703355