Mae Côr Meibion Cymreig Awstralia ar daith yng Nghymru cyn hir ac yn cynnal cyngerdd ar y cyd â Chôr Meibion Machynlleth yn y Tabernacl ar brynhawn Sadwrn y 13eg o Fehefin i ddechrau am 4.00yp.
Mae gan y Côr tua 50 o aelodau ac mae nhw wedi dathlu eu hanner can-mlwyddiant yn ddiweddar. Mae nhw yn canu yn Gymraeg a Saesneg yn bennaf sy’n cynnwys nifer o’r ffefrynnau Cymreig yn ogystal â rhaglen o gerddoriaeth ryngwladol.