Charlotte Kwok
Melody Kwok
Yola Kwok

Mae ein cyfres o gyngherddau amser cinio eleni yn dechrau gyda’r pianydd rhyfeddol  Charlotte Kwok. Mae Charlotte, sydd wedi ennill cystadleuaeth yr Unawd Piano bedair gwaith yn yr Urdd, yn ymuno â ni ym Machynlleth gyda’i dwy chwaer Melody a Yola am raglen fywiog gan gynnwys eu triawd piano enwog. Mae chwarae deheuig Charlotte wedi cael ei ganmol fel arwydd o’r dyfodol disglair sydd o flaen dawn gerddorol pobl ifainc Cymru.

 

Noddir yn garedig gan Rees Astley Insurance Brokers Ltd