Ac yntau’n cael ei fagu gan rieni oedd yn artistiaid ac yn profi bywyd bythol newidiol ac amrywiol, mae gan Ceri Pritchard fydolwg unigryw. Er iddo dreulio blynyddoedd lawer yn byw ac yn gweithio yn Ffrainc, yr Unol Daleithiau a Mecsico, mae Ceri bob amser wedi cynnal cysylltiadau cryf – yn faterol ac yn emosiynol – â Chymru a’i diwylliant.

 

Yn ôl Ceri, wrth sôn am ei waith, “Dw i’n ceisio mynegi’r cydbwysedd bregus sy’n treiddio i’n bodolaeth. Dw i’n ymddiddori yn y parthau sy’n gorwedd rhwng trefn ac anhrefn, realiti a mytholeg, yr undonog a’r sanctaidd. Mae’r paentiadau’n cynrychioli ennyd alegorïaidd ar fin croesffordd ansicr, rhwng rheswm ac afreswm, lle ceir rhyw fygythiad nad oes modd ei nabod neu ennyd fer o hiwmor.”

Cyflwyniad gan Harry Heuser.