Cyflwynir Gwobr Glyndŵr am Gyfraniad Eithriadol i’r Celfyddydau yng Nghymru yn flynyddol gan Ymddiriedolaeth Tabernacl Machynlleth yn ystod Gŵyl Machynlleth. Mae’r Wobr yn cylchdroi rhwng cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol a llenyddiaeth.

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys gwaith gan artistiaid gweledol sydd wedi ennill Gwobr Glyndŵr ac sydd hefyd â gweithiau yn ein Casgliad Tabernacl, gan gynnwys Kyffin Williams, Iwan Bala, Peter Prendergast, Shani Rhys James, David Tress, Mary Lloyd Jones, Clive Hicks-Jenkins ac Eleri Mills.