Cantorion Gogledd Cymru
Steffan Lloyd Owen
Aneira Evans

Rydyn ni’n ffodus o gael croesawu’n ôl y côr meibion rhyngwladol ei fri, Cantorion Gogledd Cymru. Er 1992 mae’r côr wedi denu aelodau o ledled gogledd Cymru sy’n dod at ei gilydd i gadw’r diwylliant hollbwysig yma o gerddoriaeth gorawl draddodiadol yn fyw. Yn ymuno â’r côr bydd y bariton o Gymru, Steffan Lloyd Owen, enillydd lwcus Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a’r soprano leol Aneira Evans i gyflwyno noson gyforiog o gerddoriaeth. O dan faton Aled Edwards, mae Cantorion Gogledd Cymru’n addo rhaglen a berfformir gyda’r angerdd, deinameg ac uchafbwynt cyffrous anhepgor a ddisgwylir gan gorau meibion Cymreig. Fe’ch cynghorir i brynu’ch tocynnau’n gynnar ar gyfer y digwyddiad hwn rhag cael eich siomi.